Storïau
Olivia Hitchcock
Beth yw manteision adrodd
straeon mewn addysg gynradd?
Mae gan blant
gariad cynhenid am straeon. Mae straeon yn creu hud a synnwyr o ryfeddod yn y
byd. Mae straeon yn ein dysgu am fywyd, amdanom ein hunain ac am eraill. Mae
adrodd straeon yn ffordd unigryw i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth, parch a
gwerthfawrogiad i ddiwylliannau eraill, a gall hyrwydd agwedd gadarnhaol at
bobl o wahanol diroedd, hil a chrefyddau (British Council, 2009).
Un o’r ffyrdd
mwyaf cynhyrchiol gall adrodd straeon cael ei defnyddio mewn addysg yw dysgu
plant am wanhaol diwylliannau, mae straeon yn medru (ibid.):
·
Caniatáu
i’r plant archwilio eu gwreiddiau diwylliannol eu hunain
·
Caniatáu
i blant brofi diwylliannau amrywiol
·
Galluogi
plant i uniaethu â phobl / llefydd / sefyllfaoedd anghyfarwydd
·
Cynnig
mewnwelediad i wahanol draddodiadau a gwerthoedd
·
Helpu
plant i ddeall sut mae doethineb yn gyffredin i bob person / pob diwylliant
·
Cynnig
mewnwelediad i brofiadau bywyd cyffredinol
·
Helpu
plant i ystyried syniadau newydd
·
Datgelu
gwahaniaethau a chydraddolion diwylliannau ledled y byd
Manteision eraill
defnyddio straeon yn yr ystafell dosbarth yw bod straeon yn (ibid.):
·
Hyrwyddo
ymdeimlad o les ac ymlacio
·
Cynyddu
parodrwydd plant i gyfathrebu meddyliadau a theimladau
·
Annog
cyfranogiad gweithredol
·
Cynyddu
hyfedredd llafar
·
Annog
defnydd dychymyg a chreadigrwydd
·
Annog
cydweithredu rhwng myfyrwyr
·
Gwella
sgiliau gwrando
Un ffordd i
ymgorffori adrodd straeon mewn addysg gynradd yw trwy Storysack® neu Sach
Stori. Sach Stori yw bag mawr sy'n cynnwys llyfr lluniau i blant gyda
deunyddiau ategol i ysgogi gweithgareddau darllen. I ddod a'r llyfr yn fyw,
mae'r sach yn cynnwys teganau meddal o'r prif gymeriadau, arteffactau sy'n
gysylltiedig i eitemau yn y stori, elfen ffeithiol sy'n ymwneud a'r thema
ffuglen a gem yn seiliedig ar y llyfr (Child's Play, 2011).
The Gruffalo Storysack® (Snuggle Time Stories, 2016)
Mae dull Ysgolion
Adrodd Straeon yn ddull deinamig a chreadigol o ddysgu. Mae ei phrif syniad yn
syml: trwy ddysgu sut i adrodd straeon a gwneud cyflwyniadau llafar, mae plant
yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar gwych wrth feistroli’r iaith a’r syniadau
sydd eu hangen arnynt ar gyfer ysgrifennu dilynol (Storytelling Schools, 2018).
Mae’r dull systematig hwn yn cael ei defnyddio ar gyfer addysgu ffuglen a
ffeithiol yn ogystal â phrosiectau pwnc-benodol ar draws y cwricwlwm (ibid.).
Ei dull yw EFFEITHIOL, YN YMGYSYLLTU A GRYMUSO.
·
Effeithiol
-
Codi
safonau yn yr ystafell ddosbarth a chau’r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer lleoliadau
Blynyddoedd Cynnar, Cynradd ac Uwchradd ledled Lloegr a thu hwnt
·
Yn
Ymgysylltu
-
Mae
ei gweithdai hyfforddi yn rhyngweithiol, yn gynhwysol ac yn chwareus, gan
hyrwyddo ymgysylltiad llawn ar gyfer athrawon. Maent hefyd yn modelu dulliau y
gellir eu trosglwyddo wedyn yn eu hystafelloedd dosbarth
-
Mae
straeon yn darparu cyd-destun dysgu cyffroes, creadigol a all ymgysylltu pob myfyriwr
-
Mae
ei dulliau hefyd yn cynyddu ymgysylltiad rhieni â dysgu eu plentyn:
benderfynydd hanfodol o lwyddiant
·
Grymuso
-
Maent
yn fodel ar gyfer addysgu effeithiol. Trwy wella sgiliau athrawon maent yn eu
grymuso i gymryd perchnogaeth dros gynllunio a chyflwyno gwersi cyffrous,
ysbrydoledig
-
Maent
yn cynnig fframwaith syml, sy’n hawdd ei ddeall ond sydd hefyd yn hyblyg, gan
ganiatáu rhyddid a chreadigrwydd
-
Maent
yn hyrwyddo defnydd iaith rugl, yn hytrach na siantio testunau gair am air, gan
alluogi plant i fagu hyder trwy ddefnyddio eu llais mewn ffordd fyrfyfyr ar
draws ystod eang o gyd-destunau
-
Mae’r
dull hwn, fel dull ysgol gyfan gyson, yn galluogi cyd-ddealltwriaeth a
chydweithio ar draws yr ysgol
Pan archwiliwyd
barn athrawon cyn-wasanaeth am y defnydd o adrodd straeon i ddatblygu’r sgil
darllen beirniadol, sylweddolwyd bod 52 o athrawon cyn-gwasanaeth allan o 53 o
gyfranogwyr yn yr astudiaeth yn dweud y gallai’r dull hwn [adrodd stori] fod yn
effeithiol. Ymhellach, yn ymwneud â datblygu’r darlleniad beirniadol, nododd 10
o’r athrawon cyn-wasanaeth y byddai’r dull hwn yn ennill y sgil gwrando trwy
holi, ac roedd 10 arall yn ystyried budd dull hwn yn datblygu sgiliau
rhagfynegi myfyrwyr cynradd tra bod 8 athrawon cyn-wasanaeth yn credu bydd y
dull yn rhoi cyfle i holi / trafod, a honnodd 7 o’r athrawon cyn-wasanaeth bydd
y dull yn ennill y sgil o ddarllen trwy gwestiynu. Yn ogystal, dywedodd 4 o’r
athrawon cyn-wasanaeth bydd y dull yn cyfrannu at ddatblygiad sgiliau
cwestiynu, dywedodd 3 athro cyn-wasanaeth bydd y dull hwn yn rhoi cyfle i ofyn
cwestiynau am y meddwl lefel-uchel tra bod 2 athro cyn-wasanaeth yn ystyried
bydd y dull yn helpu wrth ddatblygu’r sgil o ofyn cwestiynau beirniadol ac
roedd 2 athro cyn-wasanaeth arall yn meddwl bydd y dull yn addysgu i fod yn
barchus tuag at wahanol feddyliau (Belet & Dala, 2010).
Mae’n eithaf
unfrydol bod adrodd straeon yn yr ystafell dosbarth cynradd yn hynod o
fanteisiol i blant ac maent yn gwneud fwy na dim ond creu amgylchedd hwyliog,
maent yn annog cyfraniad, datblygu sgiliau cwestiynu, dysgu parch, gwella
sgiliau gwrando, nid oedd anfantais glir o ddefnyddio straeon yn y dosbarth.
Cyfeirio
Belet, S. & Dala, S. (2010) ‘The use of storytelling to
develop he primary school students’ critical reading skill: the primary
Education pre-service teachers’ opinions’, Procedia- Social and Behavioural
Sciences. 9.
British Council. (2009) Storytelling – benefits and tips.
Available at: https://www.teachingenglish.org.uk/article/storytelling-benefits-tips
[Accessed 6 May 2019].
Child’s Play. (2011) What is a Storysack®. (2011) Available
at: http://www.childs-play.com/teacher-zone/what_is_a_storyshack.html [Accessed
17 February 2019].
Snuggle Time Stories. (2015) The Gruffalo Story Sack. Available at https://www.snuggletimestories.com/shop/the-gruffalo-story-sack [Accessed 6 May 2019]
Storytelling Schools. (2018) Storytelling Schools.
Available at: https://storytellingschools.com/
[Accessed 6 May 2019].
