Mathemateg


Mathemateg

Olivia Hitchcock

Beth allai cael ei wneud i wella agweddau tuag at fathemateg tu fewn i ddosbarthau gynradd


Un ffordd o wella agweddau tuag at fathemateg tu fewn i ddosbarthiadau cynradd yw cyflwyno technoleg i wersi mathemateg. Mewn gwerthusiad ymchwil diweddar o’r adnoddau digidol Matific, roedd y canfyddiadau’n gadarnhaol. Canfu’r myfyrwyr eu bod yn mwynhau defnyddio’r adnodd digidol ar iPads a chyfrifiaduron, ac yn mynd o feddwl am fathemateg fel rhywbeth i gael ei oddef neu ei dioddef i rywbeth sy’n hwyl i’w ddysgu. Yn ychwanegol, roedd y plant wedi dechrau defnyddio’u hamser sgrin gartref i wneud mathemateg yn wirfoddol. Roedd data cyn ac ar ôl y prawf hefyd yn dangos bod y defnydd o’r dechnoleg yn cyfrannu at ganlyniadau gwell yn fathemateg (Attard, 2016). Gall rhai dadlau y byddai defnyddio dyfeisiau symudol mewn gwersi mathemateg yn cynnwys chwarae gemau syml. Mae chwiliad o’r App Store yn datgelu degau o filoedd o gemau mathemateg addysgol dybiedig, gall arwain at athrawon yn treulio oriau’n chwilio trwy lawer o raglenni o ansawdd isel (The Conversation, 2017). Yn groes i gred boblogaidd, nid gemau yw’r unig ffordd o ddefnyddio technoleg i addysgu mathemateg (ibid.).

Dyma rhai o’r gwahanol ffyrdd y mae athrawon yn medru defnyddio technoleg:

·         Rhaglenni dangos a dweud, sydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddangos ac esbonio’r ateb i broblem fathemategol gan ddefnyddio llais a delweddau
·         Dysgu wedi’i fflipio, lle mae athrawon yn defnyddio’r dechnoleg i gymryd lle hyfforddiant dosbarth traddodiadol. Mae myfyrwyr yn cael mynediad i fideos a rhaglenni YouTube sy’n rhoi esboniad o gysyniadau mathemategol yn unrhyw le ac ar unrhyw adeg
·         Pecynnau adnoddau yn seiliedig ar danysgrifiadau megis Matific sy’n darparu gweithgareddau dysgu rhyngweithiol, seiliedig ar gêm, sy’n galluogi’r athro i osod gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr unigol a chadw golwg ar gyflawniad myfyrwyr
·        


Rhaglenni generig (camera, Google Earth, Google Maps, Geocaching) sy’n caniatáu i fyfyrwyr archwilio mathemateg y tu allan i’r dosbarth

Isod mae enghraifft o'r fath o fideos sydd yn ennyn diddordeb plant mewn mathemateg.


5 Math Tricks That Will Blow Your Mind 
(Mind Warehouse, 2016)

Mae angen i rieni ac athrawon stopio gwneud i’r disgyblion ddychryn mathemateg trwy ddweud wrthynt yn aml fod datrys mathemateg yn anodd. “Mae’n beth seicolegol, gan fod eu rhieni, athrawon neu gyfoedion yn dweud wrth y rhan fwyaf o blant bod mathemateg yn bwnc anodd. Felly, mae ganddynt yr ofn hwnnw eisoes, sydd wedyn yn effeithio ar eu ffocws wrth astudio neu ddysgu’r pwnc” – Olusegun Omisore (Umukoro, 2017). “Ni ddylai mathemateg gael ei gwneud yn ddêl fawr a fyddai’n creu ofn yng nghalonnau plant. Yn hytrach, dylid meithrin hyder ynddynt. Mae angen i ni ddatgelu mathemateg, mae hanes fel mathemateg, ac mae’n beth bod dydd. Er enghraifft, pan fydd un yn mynd ‘r farchnad i bryni bethau ac yn tynnu cyllideb allan ac yn gwneud cyfrifiadau, mathemateg bob dydd yw hynny. Mae cyfrifo faint o gyfran o fisgedi y byddai brawd neu chwaer yn ei gymharu ag un arall yn fathemateg bob dydd, ac yn y blaen.” – Olusegun Omisore (ibid.). “Os byddwn yn datgelu mathemateg yn iawn o’r ysgol gynradd ac yn gadael iddynt [disgyblion] weld ei fod yn bwnc bob dydd, bydd yn haws iddynt ei drin. Dylid hefyd annog plant i astudio mathemateg am yr hwyl ac nid ar gyfer pasio arholiadau yn unig” – Olusegun Omisore (ibid.). “Nid yw’r rhan fwyaf o blant yn hoffi mathemateg oherwydd ei fod yn bwnc haniaethol, yn wahanol i bynciau eraill fel gwyddor iechyd lle gallwch weld yr enghreifftiau yn fywyd pob dydd. Yn ail, nid yw mwyafrif o ddisgyblion yn barod i ymchwilio, maent eisiau athrawon i ddweud popeth wrthynt, nid ydynt yn barod i wneud a datrys cwestiynau ar eu pennau eu hunain. Rhif tri, ni all pob athro drosglwyddo’r wybodaeth am fathemateg i lawer o’r disgyblion i’w deall. O ganlyniad, mae disgyblion yn rhedeg i ffwrdd o fathemateg oherwydd mae’n ymddangos yn anodd deall.” – Abiodun Majekodunmi (ibid.).

Mae’n amlwg bod angen i’r bobl mae plant yn edrych lan at weithio ar sut maent yn portreadu mathemateg iddynt. Credaf taw hyn sydd yn cael yr effaith mwyaf ar agweddau plant tuag at fathemateg ac er mwyn gwella’r agweddau hynny mae angen ei phortreadu mewn ffordd bositif, gan dynnu sylw at ba mor bwysig mae mathemateg i fywyd pob dydd.

Cyfeirio

Attard, C. (2016) Research Evaluation of Matific Mathematics Learning Resources: Project Report. Penrith: Western Sydney University.

Mind Warehouse. (2016) 5 Math Tricks That Will Blow Your Mind. Available at: https://www.youtube.com/watch?v=-wkr_vf18cw [Accessed 6 May 2019].

The Conversation. (2017) Technology in the classroom can improve primary mathematics. Available at: http://theconversation.com/technology-in-the-classroom-can-improve-primary-mathematics-83431 [Accessed 6 May 2019].

Umukoro, A. (2017) How to make kids like maths. Available at: https://punchng.com/make-kids-like-maths/ [Accessed 6 May 2019].