Pwrpas Addysg

Pwrpas Addysg

Olivia Hitchcock

Beth yw pwrpas addysg?


Yn ei ystyr ehangaf, ystyrir addysg fel arfer yn ymwneud a chaffael gwybodaeth a datblygu sgiliau a dealltwriaeth (Bartlett & Burton, 2016). Gellir honni ein bod ni fel pobl, yn cael ein dynodi gan ein gallu i ddysgu, cyfathrebu a rhesymu (ibid.). Mae addysg yn ymwneud a rhoi'r cyfarpar i'r meddwl i wneud synnwyr o'r byd corfforol, cymdeithasol a diwylliannol (Gregory et al., 2002). Mae cyseiniannau personol y term ‘addysg’ yn cael eu llunio gan nifer o brofiadau unigol fel cael y marciau gorau yn y dosbarth, pasio arholiadau, mynd ar deithiau ysgol, neu fod yn y set isaf (Bartlett & Burton, 2016). Mae’r cwestiwn o bwrpas addysg yn gwestiwn cyfansawdd ac wrth drafod pwrpas addysg dylem wahaniaethu rhwng tair swyddogaeth addysg: cymhwyster, cymdeithasu a phwnc (Biesta, 2008).

Nid yn unig ydy athrawon yn cyflwyno’r cwricwlwm cenedlaethol ac yn gweithredu polisi disgyblaeth gadarnhaol, maent hefyd yn wynebu amgylchiadau cyd-destunol megis penblethau dros lefelau a dosbarthiad adnoddau, gweithredoedd o drais ac ymddygiad ymosodol, patrymau cymhleth o berthnasau rhyngbersonol a grŵp, brwydrau pŵer ar gyfer reolaeth a goruchafiaeth, anghydfodau ynglŷn â chyflawniad, a materion ynglŷn â beth yw ‘gwybodaeth ddefnyddiol iawn’ i wahanol grwpiau o fyfyrwyr (Bartlett & Burton, 2016). Mae addysg gynradd yn unigryw gan fod y gweithgaredd o addysgu plant ifanc yn gofyn bod ymarferwyr hefyd yn ofalwyr ymroddedig, mae hyn yn gofyn am sylw arbennig iawn gan athrawon yn yr ystafell dosbarth (Driscol et al., 2015).

“Mae’n rhaid i addysg alluogi dyn i ddod yn fwy effeithlon, i gyflawni gyda chyfleusterau cynyddol y  nodau cyfreithlon ei fywyd. Rhaid i addysg hefyd hyfforddi un ar gyfer meddwl yn gyflym, yn gadarn ac yn effeithiol. Mae meddwl yn dreiddgar a meddwl am eich hunan yn anodd iawn, Rydym yn dueddol o adael i’n bywyd meddyliol gael ei goresgyn gan gynghreiriau o hanner gwirioneddau, rhagfarnau a phropaganda” (King, 1947).


Y Gweinidog Ysgol Nick Gibb yn annerch yr Uwchgynhadledd Diwygio Addysg
(The Department for Education, 2015)

“Addysg yw injan ein heconomi, dyma sylfaen ein diwylliant, ac mae’n baratoad hanfodol ar gyfer bywyd fel oedolyn. Mae cyflawni ein hymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol yn gofyn i ni roi’r 2 amcan hyn [economi, diwylliant, baratoad ar gyfer bywyd fel oedolyn] wrth wraidd ein system addysg” (Gibb, 2015). Ar ôl yr argyfwng ariannol, efallai yn bwysicaf oll, mae’n rhain i ni sicrhau bod gan fwy o bobl y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn economi anodd. Mae ein plant 15 oed â chyfartaledd 3 blwyddyn tu ôl i’w cyfoedion yn Shanghai mewn mathemateg a ni yw’r unig wlad OECD nad oes gan bobl ifanc lefelau gwell o lythrennedd a rhifedd na chenhedlaeth eu neiniau a’u teidiau (ibid.). Mae gan addysg werth cynhenid fel nodwedd cymdeithas wâr a sylfaen ein diwylliant (ibid.). Mynegodd Arnold (1869) y ddelfryd ryddfrydoli o addysg o ansawdd uchel i bawb, sydd: “yn ceisio dileu dosbarthiadau; i wneud y gorau sydd wedi bod yn wybyddus yn y byd, pobman; i wneud i bob dyn fyw mewn awyrgylch o felyster a goleuni, lle y gallent ddefnyddio syniadau, fel y maent yn defnyddio nhw, yn rhydd, ac nid ydynt wedi’u rhwymo ganddynt”. Mae bywyd oedolion heddiw yn gymhleth, ac mae’n ddyletswydd ar bobl ifanc i sicrhau bod ganddynt y cymeriad a’r ymdeimlad o bwrpas moesol i lwyddo (Gibb, 2015).



What's Education For?
(The School for Life, 2015)


Mae’r fideo yma yn cytuno taw nod addysg ddylai fod i’n paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn, ond boed mewn ysgolion preifat, academaidd neu mewn ysgolion difreintiedig, sy’n cael eu rhedeg gan y llywodraeth, mae trafferth delio â heriau bywyd yn parhau i fod yn eang iawn (The School of Life, 2015). Yn ôl y fideo mae yna 2 tasg sylfaenol y dylai addysg ein helpu gyda, gweithio a chynnal perthnasau da, er mwyn cyflawni hyn dylai’r cwricwlwm cynnwys y pynciau canlynol: cyfalafiaeth, eich hunain, perthnasau, a ni fydd addysgu yn digwydd yn y dosbarth yn unig (ibid.).

I gloi, mae’r ffynonellau rydw i wedi edrych ar i gyd yn cytuno i ryw raddau, mai pwrpas addysg nid yn unig yw addysgu gwybodaeth academaidd, ond i hefyd paratoi disgyblion ar gyfer y byd tu allan. Ond yn anffodus nid yw hyn wedi digwydd i raddau digon mawr bod plant yn bersonol yn teimlo eu bod yn barod i fod yn oedolion (ibid.). Credaf nad oes diben dweud beth DDYLAI pwrpas addysg fod os nad dyna yw ei ddiben ar hyn o bryd.

Cyfeirio

Arnold, M. (1869) Culture and Anarchy. Available at: http://public-library.uk/ebooks/25/79.pdf [Accessed 5 May 2019].

Bartlett, S a Burton, D. (2016) Introduction to Education Studies. 4th edn. London: Sage.

Biesta, G. (2008) ‘Good education in an age of measurement: on the need to reconnect with the question of purpose in education’, Educational Assessment, Evaluation and Accountability, 21(1).

Driscol, P. et al. (2015) The Primary Curriculum. 2nd edn. Los Angeles: Sage.

Gibb, N. (2015) The Purpose of Education. The Department for Education. Available at: https://www.gov.uk/government/speeches/the-purpose-of-education [Accessed 5 May 2019].

Gregory, I. et al. (2002) Key Debates in Education. London: Continuum.

King, M. (1947) ‘The Purpose of Education’, The Maroon Tiger. Available at: https://www.shsu.edu/dept/office-of-the-president/documents/MLK+Speech+2016.pdf [Accessed 4 May 2019].

The Department for Education. (2015) The Purpose of Education. Available at: https://www.gov.uk/government/speeches/the-purpose-of-education [Accessed 5 May 2019].

The School of Life. (2015) What’s Education For? Available at: https://www.youtube.com/watch?v=HndV87XpkWg [Accessed 5 May 2019].