E-Diogelwch

e-diogelwch

Olivia Hitchcock

Beth yw e-diogelwch?

Mae plant a phobl ifanc yn byw mewn gofod sy’n symud yn gyflym ac yn fwy a fwy cymhleth, gyda thechnolegau cyd cysylltiedig yn ffurfio asgwrn cefn cyfathrebu sylfaenol. Nid yn unig y mae ganddynt eu dyfeisiau symudol, ond maent hefyd wedi’u hamgylchynu gan gyfrifiaduron personol o sawl math, siâp a maint. Ymhellach, fel mae adroddiad Swyddfa Gyfathrebiadau’r DU (OFCOM) ar lythrennedd y cyfryngau ddangos, wrth i bobl ifanc dyfu i fod yn eu harddegau, maent yn casglu llawer o’u thechnoleg eu hunain. Mae’n bosib bod ganddynt liniaduron a chyfrifiaduron ynghyd â theledu digidol a chymysg o gonsolau gemau, y mae pob un ohonynt yn rhoi iddynt y modd i fynd ar-lein (Atkinson et al., 2009). Mewn cytundeb â’r datganiad yma, “fel hyfforddai neu athro sy’n ymarfer, mae’r maes e-ddiogelwch yn heriol, yn esblygu ac yn gymhleth. Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o’r ystod eang o dechnolegau a gwasanaethau ar-lein y mae plant oed cynradd yn eu defnyddio. Mae’r technolegau hyn yn newid gyda’r tueddiadau ac yn aml mae ganddynt nodweddion swyddogaethol a all greu risgiau posibl” (Savage & Barnett, 2015).

Yn ôl Savage a Barnett (2015) mae yna 5 rhan i e-ddiogelwch a diogelu digidol. Fel y nodwyd uchod, mae gan dechnolegau nodweddion swyddogaethol a all greu risgiau posibl, a rhan bwysig o e-ddiogelwch a diogelu digidol yw adnabod a deall risgiau a pheryglon (ibid.). Mae yna hefyd buddion i blant cael mynediad i dechnoleg, isod mae yna enghreifftiau o gyfleoedd a risgiau o blant yn defnyddio technoleg mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Mae yna bapur yn y cylchgrawn Education and Information Technologies, efo ymchwil i brofiadau a dealltwriaeth disgyblion cynradd o e-ddiogelwch. Mae’r papur yn seiliedig ar ddata arolygon a chyfweliadau efo 612 o ddisgyblion rhwng 7 ac 11 oed mewn 5 ysgol gynradd yn Lloegr. Mae dadansoddiad o’r data hwn yn dangos, er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn cydnabod bod angen cyffredinol i gadw mewn cof risgiau a pheryglon sy’n gysylltiedig â TGCh, roedd eu profiadau gwirioneddol o risg yn tueddu i gael eu disgrifio fel problemau gweithredol. Serch hynny, roedd dealltwriaeth disgyblion o risgiau bosibl yn aml yn seiliedig ar ofnau gorliwio yn deillio o nifer o banig moesol yn ymwneud â diogelwch plant. Mae’r data hyn yn awgrymu bod syniadau swyddogol o ‘e-ddiogelwch’ yn parhau i fod yn haniaethol ac yn gysyniadau nad ydynt yn cael eu deall yn dda gan blant. Wrth ystyried pa oblygiadau sydd gan y data hwn ar gyfer yr agenda e-ddiogelwch barhaus yn ysgolion y DU, daw’r papur i ben drwy awgrymu tri mae newid posibl:

1.     Ailgyfeirio testun a naws y drafodaeth swyddogol sy’n ymwneud ag e-ddiogelwch.
2.     Cynyddu ymyriadau pedagogaidd mewn ysgolion cynradd gyda’r nod o wella sgiliau llythrennedd beirniadol disgyblion.
3.     Sefydlu deialog ystyrlon a chyson rhwng disgyblion, athrawon a rhieni am ddiogelwch a risg wrth ddefnyddio TGCh (Cranmer et al., 2009).

Er bod ymchwil i gefnogi’r ffaith bod risgiau bosibl yn aml yn seiliedig ar ofnau gorliwio (ibid.), mae’r ymchwil hynny o 2009 ac mae technolegau wedi esblygu hyd yn oed yn fwy ers hynny ac efallai nawr mae’r ofnau wnaethom ni i gyd clywed fel plant yn dod yn wir.

Cyfeirio

Atkinson, S. et al. (2009) ‘Securing the next generation: enhancing e-safety awareness among young people’, Computer Fraud & Security. 2009(7).

Cranmer, S. et al. (2009) ‘Exploring primary pupils’ experiences and understandings of ‘e-safety’’, Education and Information Technologies. 14(2)

Savage, M. & Barnett, A. (2015) Digital Literacy for Primary Teachers. St Albans: Critical Publishing LTD