Blaenoriaeth
Olivia Hitchcock
Beth ddylai gael blaenoriaeth
mewn addysg gynradd?
Yn 1944, yn gyfreithiol, gallai ysgolion
addysgu’r hyn yr oeddent eisiau, heb law am Addysg Grefyddol, a oedd yn elfen
ofynnol o addysg ôl-Ail Rhyfel Byd yn y DU. Weithiau roedd cynnwys y cwricwlwm
yn cael ei arwain a’i ddylanwadu gan flaenoriaethau’r Awdurdod Addysg Leol
(Driscol et al., 2015). Gall hyn wedi bod yn fanteisiol oherwydd nid yn unig
ydy ardaloedd penodol yn addysgu beth oeddent yn credu dylent flaenoriaethu ar
gyfer ei ddisgyblion penodol ond roedd ysgolion penodol yn addysgu beth oeddent
yn credu dylent flaenoriaethu ar gyfer ei ddisgyblion penodol ac felly roedd y
disgyblion hynny yn cael addysg oedd wedi’i theilwra iddyn nhw a’i anghenion
penodol. Ar y llaw arall gall hyn fod yn ffordd ofnadwy o addysgu oherwydd mae
yna siawns uchel bydd disgyblion o wahanol ysgolion a wahanol ardalaeth yn
dysgu pethau gwbl wahanol.
Dim ond 40 mlynedd yn ddiweddarach cafodd
y Cwricwlwm Cenedlaethol ei gyflwyno gan y Ddeddf Diwygio Addysg 1988
(Education Reform Act, 1988). Mae’r dde Newydd yn cyfeirio at set o syniadau a
ddaeth i’r amlwg yn y 1970au a’u nod craidd ar gyfer addysg oedd gwellau
safonau trwy farchnata, a oedd yn ei dro yn rhoi mwy o ddewis i rieni o ran ble
roedd eu plant yn mynd i ysgol. Cyflwynodd y dde Newydd dablau cynghrair
ysgolion lle cafodd ysgolion eu rhestru yn seiliedig ar eu perfformiad mewn
arholiadau TASau, TGAU, a Safon Uwch (Thompson, 2017). Y rhesymeg y tu ôl i
dablau cynghrair oedd bod pob ysgol yn dilyn yr un cwricwlwm, gan ei wneud yn
haws i rieni gymharu â dewis rhwng ysgolion, a bod TGAU a TASau yn golygu bod
pob myfyriwr, c yn bwysicach, pob ysgol yn cael ei hasesu gan ddefnyddio’r un
math o arholiad (ibid.). Mae’r newid yma yn awgrymu nid oedd y dull o ysgolion
yn dewis blaenoriaethau dysgu yn effeithiol iawn.
Yn ôl yr adroddiad Successful Futures
dylid trefnu cwricwlwm 3-16 oed yn feysydd dysgu a phrofiad sy’n sefydlu
ehangder y cwricwlwm. Dylai’r meysydd hyn ddarparu cyd-destunau cyfoethog ar
gyfer datblygu’r pedwar diben cwricwlaidd, bod yn gydlynol yn fewnol, defnyddio
ffyrdd unigryw o feddwl, a chael craidd amlwg o wybodaeth ddisgyblu neu
offerynnol (Donaldson, 2015).
Successful Futures
(Donaldson, 2015)
Diben Cwricwlaidd [i greu]
|
Meysydd Dysgu a Phrofiad
|
Dysgwyr uchelgeisiol,
galluog, yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau
|
Celfyddydau Mynegiannol
|
Cyfranwyr mentrus,
creadigol, n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
|
Iechyd a Lles
|
Dinasyddion moesegol,
gwybodus Cymru a’r byd
|
Dyniaethau
|
Unigolion iach hyderus, yn
barod i arwain bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas
|
Ieithoedd, Llenyddiaeth a
Chyfathrebu
|
Mathemateg a Rhifedd
|
|
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
|
Mewn adroddiad Swyddfa ar gyfer Safonau
mewn Addysg (OFSTED) ar y cwricwlwm mewn ysgolion cynradd llwyddiannus,
rhoddodd yr holl ysgolion bwyslais cryf ar y Dyniaethau, addysg gorfforol ac,
yn enwedig y celfyddydau, gan daw'r rhain oedd y pynciau oedd yn ysgogi’r disgyblion
ac yn cyfrannu tuag at eu brwdfrydedd am ysgol ac addysg yn gyffredinol (Office
for Standards in Education, 2002). Roedd yr egwyddor hon y cynlluniwyd y
cwricwlwm arni yn flaengar yn y ffordd yr oedd yn canolbwyntio ar les y plant,
gyda’r cwricwlwm newydd arfaethedig ar gyfer Cymru yn cael iechyd a lles fel un
o’i Meysydd Dysgu a Phrofiad (Donaldson, 2015).
Enghraifft arall o gael lles fel y
flaenoriaeth yw yn Ysgol Gynradd Aldborough, “rydym yn gweithio’r galed i
ddarparu cyfleoedd dysgu cofiadwy ac ystyrlon i blant, trwy gwricwlwm sy’n
ymgysylltu a herio, gyda disgwyliadau uchel a thrylwyredd academaidd wrth ei
wraidd. Mae ein plant yn mwynhau eu hamser yn yr ysgol ac yn siarad â chyffro
am y wefr a'r llawenydd y maent yn ei brofi wrth iddynt wneud darganfyddiadau,
datblygu eu sgiliau a meistroli cysyniadau anodd. Rydym yn credu ym mhob
plentyn ac mae pob penderfyniad a wnawn yn seiliedig ar wneud gwahaniaeth
cadarnhaol yn eu bywydau, gan roi’r gorau y gallwn ei gynnig a chefnogi eu
taith i gyflawni llwyddiant mawr” (Aldborough Primary School, 2014).
I gloi credaf ei fod yn unfrydol rhwng
ysgolion taw iechyd a lles y disgyblion dylai fod blaenoriaeth mewn ysgolion
cynradd, a ddylai’r cwricwlwm cael ei chynllunio o gwmpas beth fydd yn fwyaf
buddiol i’r disgyblion hynny.
Cyfeirio
Aldborough
Primary School. (2014) School Priorities. Available at: https://www.aldborough.net/school/about-aldborough/school-priorities/ [Accessed 5 May 2019].
Department for Education (2015) Key Stages
2-4. Available at: https://learning.gov.wales/resources/collections/key-stages-2-4?lang=en
[Accessed 18 February 2019].
Donaldson, G. (2015) Successful Futures, Independent
review of Curriculum and Assessment Arrangements in Wales. Available at: https://gweddill.gov.wales/docs/dcells/publications/150225-successful-futures-en.pdf
[Accessed 3 May 2019].
Driscol, P. Et al. (2015) The Primary Curriculum. 2nd
edn. Los Angeles: SAGE.
Education Reform Act 1988. Available at: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1988/40/pdfs/ukpga_19880040_en.pdf
[Accessed 5 May 2019].
Office for Standards in Education. (2002) The Curriculum
in Succesful Primary Schools. Available at: https://dera.ioe.ac.uk/4564/1/Curriculum%20in%20successful%20primary%20schools%20(The)%20(PDF%20format).pdf
[Accessed 5 May 2019].
Thompson, K. (2017) The 1988 Education Reform Act – Class
Notes. ReviseSociology. Available at: https://revisesociology.com/2017/10/24/the-1988-education-reform-act-class-notes/
[Accessed 5 May 2019].
